Comisiwn y Cynulliad |
Meeting Venue: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
Meeting date: |
Dydd Iau, 20 Mehefin 2013 |
|
|||
Meeting time: |
|
|
|||
|
|||||
|
|||||
Minutes: AC(4)2013(9) |
|||||
|
|
|
|||
Committee Members: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Peter Black Angela Burns Sandy Mewies Rhodri Glyn Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Officials present: |
|
Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog) Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad (Swyddog) Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd (Swyddog) Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn (Swyddog) Holly Pembridge, Rheolwr Cydraddoldebau (Swyddog)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Others in attendance: |
|
David Melding, Y Dirprwy Lywydd Mair Barnes, Cynghorwr Annibynnol
|
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad y Cadeirydd
1(i) Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn.
1(ii) Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
1(iii) Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2013
Cytunwyd ar y cofnodion.
2 Adolygu’r cymorth i’r Pwyllgorau
Ym mis Rhagfyr 2012 gofynnodd y Comisiwn am adolygiad o'r cymorth a ddarperir i bwyllgorau'r Cynulliad, a bu'r adolygiad yn edrych ar yr amrywiaeth eang o gymorth sydd ar gael. Nod yr adolygiad oedd nodi gwelliannau ar unwaith, er mwyn sicrhau bod y cymorth a ddarperir yn cael ei lywio gan y Cadeiryddion a'r pwyllgorau eu hunain bob amser a’i fod yn diwallu anghenion Aelodau unigol ac anghenion y pwyllgorau.
Dros y chwe mis diwethaf, casglwyd tystiolaeth gan gadeiryddion ac aelodau unigol o bwyllgorau, i geisio deall eu gofynion yn well a chanfod i ba raddau roeddent yn teimlo bod angen newid y ddarpariaeth bresennol. Roedd y farn yn amrywio, gyda rhywfaint o dystiolaeth yn dangos bod yr Aelodau'n fodlon â'r cymorth sydd ar gael, a rhywfaint yn dangos bod galw am rywfaint o newidiadau mewn arferion gweithio. Roedd y gwaith wedi darparu cyfle i roi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio. Byddai canlyniadau Arolwg Aelodau'r Cynulliad a'u Staff Cymorth, a oedd newydd eu casglu, hefyd yn dylanwadu ar gynigion ar gyfer newid yn y dyfodol.
Er bod y Comisiynwyr yn teimlo bod y wybodaeth a gyflwynwyd yn wybodaeth ddiweddar a defnyddiol ar y cynnydd hyd yma a'r amrywiaeth o safbwyntiau a gyflwynwyd, mynegwyd pryder nad oedd y papur yn darparu golwg strategol ar yr opsiynau a oedd ganddynt ar gyfer y dyfodol. Teimlwyd y dylid rhoi mwy o bwyslais ar ddatblygu arferion gorau gan gynnwys adnabod model ar gyfer y gwasanaethau craidd a fyddai’n darparu cymorth seneddol o’r radd flaenaf. Roedd y Comisiynwyr am ddefnyddio dull mwy cyfannol a chynnwys pob agwedd ar y cymorth sydd ar gael i’r Aelodau, gan gynnwys, er enghraifft, datblygiadau technolegol a datblygiad proffesiynol parhaus. Roedd angen i’r cynigion hefyd ystyried swm y gwaith a oedd yn ofynnol i 42 o Aelodau’r Cynulliad ei gyflawni. Cytunwyd y byddai'r mater yn cael ei drafod eto yng nghyfarfod y Comisiwn yn yr hydref.
Cam i’w gymryd:Cyflwynir papur arall yn yr hydref yn hyn o beth.
3 Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2012-13
Cyhoeddir Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn ar-lein ar 11 Gorffennaf. Anfonir copïau at yr Aelodau cyn diwedd y tymor a bydd rhywfaint o gopïau ar gael, gyda chrynodeb, yn nigwyddiadau'r Comisiwn dros yr haf.
Cytunodd y Comisiynwyr ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar nifer fach o newidiadau.
4 Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2012-13
Mae'r Adroddiad Cydraddoldeb yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn ôl cynllun Cydraddoldeb y Comisiwn ar gyfer 2012-16. Mae'r adroddiad yn nodi nifer o gyraeddiadau arwyddocaol dros y flwyddyn, ond hefyd mae'n cydnabod bod rhai cyfleoedd i wella. Diolchodd y Comisiynwyr i staff am eu hymrwymiad parhaus i ddarparu'r agenda cydraddoldeb a oedd yn parhau i ddangos cyfraniad cadarnhaol y Cynulliad yn y maes hwn.
Cytunwyd ar yr adroddiad.
5 Y Pwyllgor Archwilio 18 Ebrill a 13 Mehefin
Nodwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 18 Ebrill. Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad llafar ar y materion a drafodwyd yn y Pwyllgor Archwilio ar 13 Mehefin, gan gynnwys cadarnhad o lefel y sicrwydd a roddwyd ar y cyfrifon ar gyfer 2012-2013, a chafwyd trafodaeth fer ar y cynlluniau archwilio mewnol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
6 Unrhyw Fusnes Arall